Thank you for the opportunity to respond to this consultation.  The Sentencing Council does not wish to respond to the consultation in detail, but in answer to the two questions posed in your letter:

 

·         Do you believe there are any implications of implementing this Bill on your work and/or workload?

o   The Sentencing Council for England and Wales does not anticipate that implementing the Bill would have any significant implications for its work or workload.

·         What discussions are you aware of with Welsh Government about this Bill?

o   The Sentencing Council for England and Wales has had no discussions with the Welsh Assembly about this Bill.

I hope this assists

 

Regards

 

Ruth Pope

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ebrill  2019

 

Annwyl Gyfaill,

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (‘y Bil’). Mae rhagor o wybodaeth am y Bil a gwaith y Pwyllgor arno ar gael fel Atodiad i’r llythyr hwn.

Galwad am dystiolaeth ysgrifenedig

O ystyried perthnasedd y Bil hwn i’ch maes gwaith chi, mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed gennych. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael dau beth:

1.      Ymateb i’w ymgynghoriad ar-lein

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth a byddai’n croesawu ymateb gennych. O gofio faint o wybodaeth a ddisgwylir, a’r amserlen a bennwyd inni gyflwyno adroddiad, dyma ofyn i chi ddefnyddio porth ar-lein i gyflwyno gwybodaeth bob tro. Bydd gwneud hyn yn ein helpu i sicrhau y caiff barn pawb ystyriaeth ddigonol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y porth, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor: SeneddPPIA@cynulliad.cymru.

 

2.      Ymateb i’r cwestiynau penodol isod (naill ai fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein neu mewn gohebiaeth ar wahân, pa un bynnag sydd hawsaf i chi)

Er mwyn llywio ei ystyriaeth o’r Bil, byddai’r Pwyllgor yn croesawu ymateb i’r cwestiynau canlynol:

·         A ydych chi’n credu bod unrhyw oblygiadau o ran gweithredu’r Bil hwn ar eich gwaith a / neu’ch llwyth gwaith?

·         Pa drafodaethau yr ydych chi’n ymwybodol ohonynt gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y Bil hwn?

Mae’r Pwyllgor yn gofyn a fyddai modd i’r wybodaeth hon gael ei chyflwyno erbyn dydd Mawrth 14 Mai fan bellaf.

Polisi dwyieithrwydd

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae’r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Yn gywir,

Lynne Neagle AC
Cadeirydd

 


 

ATODIAD

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Diben y Bil yw diddymu’r amddiffyniad y cosb resymol o dan y gyfraith gyffredin, fel na fydd yr amddiffyniad i ymosod ar blentyn neu ei guro bellach ar gael yng Nghymru i rieni nac i’r rheini sy’n gweithredu in loco parentis.

Ar hyn o bryd, mae’r amddiffyniad yn berthnasol i gyfraith trosedd a chyfraith sifil. O dan gyfraith trosedd, mae’n berthnasol o ran troseddau ymosod a churo yn y gyfraith gyffredin; ac o dan y gyfraith sifil, mae’n berthnasol o ran camwedd tresmasu yn erbyn y person.

Bwriad y Bil yw helpu i amddiffyn hawliau plant gan wahardd defnyddio cosb gorfforol, drwy ddileu’r amddiffyniad hwn. Bwriad effaith y Bil, ynghyd ag ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chefnogi rhieni,